Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YMAGOR, FEDD

YMAGOR, Fedd. A rhua, Dymhestl arw,—
O, y mae Un—Un yn rhy fawr i farw.
Ac ynddo mae y Cristion, ynddo ef
Byth yn ymdroi fel seren
Yn mynwes fawr y nef;
Ac nis gall grwydro o'i olwg, crwydro draw,
Byth, byth o gyrraedd ei anfeidrol law.

Mae Duw o hyd tu hwnt
I'n holl beryglon,
I olwyn ei twriadau Ef
Ymdawdd yr holl olwynion,
Ar echel ei drugaredd fawr
Y chwyl eu milmil troion,
A llanw ei ragluniaeth ddistaw chwydda
Tan ddyfnder holl gynllwynion pyrth Gehenna.

Agored mil o feddau ar bob tu,
Diogel, O gredadyn, ydwyt ti;
Mae Duw'n gwregysu'r bedd ag addewidion,
A'i hollalluog fraich o'i amgylch weithion.

Ymagor, Fedd. A rhua, Dymhestl arw,
Yn Nuw pa fodd, pa fodd y gallwn farw?