Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canfyddaf yr oesoedd rhyfelgar eu gweddau
Mewn mantell o waed yn codi o'u beddau,
Gan estyn o'u dwylaw rhychedig i ti
Y rhuddwawr goronau, a phalmwydd y bri,—

"Fe ruthrai dy gadfeirch trwy rydiau o waed,
Ac arfau y meirw yn darstain dan draed ;
A buan y rhoddid y gelyn ar ffo
Pan ruthrai dy ryfel fel corwynt o waed drwy dy fro."

Pan gollai'r dieithr ar ei daith
Ei lwybyr ar y bryniau,
A'r storm yn taflu dros y nef
Holl blygion ei chysgodau,
Pan ar y graig ystormus fan
Ei ben gogwyddai i farw,
Adwaenid ei ochenaid wan
Yn rhu y dymestl arw;
A gwelid dôr rhyw fwthyn gwyn
Yn agor draw ar ael y bryn.

Anturiai y bythynwr tlawd,
A'i lusern ar y nos yn gwawrio;
Anturiai i'r ystorom fawr
A'i wisg fel cawod lif am dano;
A dygai'r teithiwr yn ei law
I'w fwthyn ar y llethr draw.
O, gallech deithio gwledydd fil
Heb gwrdd a charedicach hil.

Ond gwae a gyffyrddai â'i baner yn awr,
Gwae'r cleddyf a dynnid i ruddo ei gwawr.

Fe grynnai y ddaear â garmau Brythoniaid,
A chwyddai'r afonydd â gwaed y gwroniaid,