Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

emynnau,—yn ddi-gyswllt. Fel rheol, rhydd y dyddiad odditanynt. Rhydd y gweddill ar 185 o dudalennau mawrion, gan rifo'r dalennau fel pe buasai'r cwbl yn gyfanwaith,—ond fod darn crwydr yn dod i mewn yma ac acw. Er hynny y mae'n amlwg mai darnau, i'w hail drefnu yn y dyfodol, yw y llyfr i gyd. Pe cawsai Islwyn fyw, rhoddasai ei holl brydyddiaeth yn un cyfanwaith, gan ei alw "Yr Ystorm" neu "Y Dymhestl."

Rhennir y gyfrol hon yn bedair rhan. Yn y rhan gyntaf ceir caueuon trallod Islwyn. Try ymysg y beddau,—

Yma mae


Fy chwaer yn gwywo, acw brawd dan len,
Ac yma un agosach im na'r ddau,
Fy hunan nid agosach. Ac O! Fan draw
Canfyddaf fedd,

ond cwyd ei olwg weithiau, a rhydd gan sydd fel adlais o gân angylion.

Yn yr ail ran dring i'r bryniau o'r ystorm a'i curasai, a gwel fawredd arddunol y dymhestl. Ystorm yn nyffryn yr Hywy, ystorm ar y môr, yr ystorm ddifwynodd Eden, ystormydd uffern, yr ystormydd gurodd ar ein Gwaredwr, yr ystormydd gurodd ar Gymru, ystorm y Diluw, ystorm y Farn,—tramwyant oll o'i flaen.

Yn y drydedd ran rhoddir lloffion,—darnau byrion na feddyliodd Islwyn am danynt wedi eu hysgrifennu, neu bigion o ryw waith anorffenedig.

Yn y bedwaredd rhoddir cyfan-waith, er nad yn hollol gyfan,—y "Nefol Wlad." Dengys effaith daearyddiaeth ar addysg. Ynddo ceir yr Iesu a'r arwr a'i dilyna, gwlad Canan a Chymru, yn toddi i'w gilydd.