Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofynnwch heddyw am ei fedd,—mae mil
A myrddiwn yn cyfeirio tua'r fan ;
Nid uwch, amlycach haul ar fannau'r dydd,
Na'u henwau hwy ar fryniau moliant ban.
Edrychai'r byd
O'i gyrrau i gyd
Ar nos y bedd
Yn huddo 'u gwedd,
A'i gysgod mwy yn araf gau,
O'u hamgylch hwy fel cyfyng bau.
Nid mwy y syllu pan fo'r lloer
Yn duo'r haul a'i chysgod oer;
Neu pan fo Ior yn gollwg draw
Gronfa o ser oddiar ei law,
Dros oriwaered llethr erchyll
Diddymdra i lawr i'r eigion tywyll,
Neu pan fo'r Nef oddiar ei bannau
Yn taflu ymaith Alp o heuliau.

A phan sibrydir,—"Nid yw HWNNW mwy,"—
Y mae dynolryw ar eu traed;
Ac nid oes diwedd ar eu holi hwy,—
"Pa fodd y bu? Pa agwedd arno gaed?
A welsoch chwi ei wyneb pan suddai i'w fedd o waed ?"
Awn, awn, yn fil o filoedd tua'r fan;
Pan fyddo Haul yn machlud mae y ser
Yn tyrfu o gylch ei wag orseddfainc ban,
A nos yn elorlennu'r nefoedd der.
Awn oll i wylo yno, lle y caed
Y pennaf un yn gorwedd yn ei waed,
A thithau, Amser, ar dy falchaf lanw
Tros uchaf fryniau'r oesoedd draw trosglwydda'r enw.