Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWYLLT WALIA, FY NGWLAD

GWYLLT Walia, fy ngwlad,
A mangre fy nhadau,
Mae'th feibion yn caru
Cysgodion dy fryniau.

Dy fryniau argraffant
Eu herfawr gysgodion
Fel delw gwroldeb
Yn enaid dy feibion.

Boed adsain gorfoledd
O hyd ar dy dannau ;
A her mawrfrydigrwydd
Yn urddo dy fannau.

O bydded dy fryniau
Yn wylltion o hyd,
Yn erchyll a gwylltion
Fel geirwon bileri y byd.