Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A Libanus, wreiddyn a changen, esgynna
I'r nefoedd mewn mantell rudd-lydan o dân;
A marwor rhyw seren gyffyrddant a'r Wyddfa,
A llysg trwy ei chreigiau i'w sylfaen yn lân.

Goruchuddia y tân ystafelloedd y dehau,
A chwâl hyd ei sylfaen holl adail y nefoedd ;
Mae'r wenfflam yn dringo eich marmor golofnau,
Chwi aruthr fydoedd.

Ymddengys y Barnwr a'i osgordd mewn trawiad,
Fel mellten yn torri o'r cwmwl ar unwaith,
A thawdd y planedau o'i wyddfod. Ail gread
Tu ol i'w gerbydau a wawria eilwaith.

Arcturus a'i feibion, fel niwl y diflannant ;
A'r moroedd o ser sy'n gorlifo Caergwydion,
Tua thawel eigionau diddymdra y treiant
Ar wawriad ei faner a'i danbaid osgorddion.

Mae'r môr yn cynhyrfu trwy fil o eigionau,
A'r creigiau yn duo, a'r tonnau yn mygu;
Ac amlach na'r gwenyg sy'n toi'r gorddyfnderau
Y dyrfa o ganol yr eigion sy'n codi.

Mae'r llais orchymynnodd i'r dyfnder ddistewi
O begwn i begwn, i wrando ei eiriau,—
"Aruthrol lifeiriant, hyd yma y deui,
Fôr, gwrando, hyd yma y chwyddi dy donnau,"—

Ddylanwad diderfyn! Mae'r llais hwnnw'n awr,
Trwy storom o dân wedi cyrraedd yr eigion;
A myrdd ymddanghosant, yn danbaid eu gwawr,
Fell llanw o ser ar fannau y wendon.