Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Flaen anadl y poethwynt draw chwythir y llongau,
Ail gwigoedd yn fflamio ynghanol y tonnau;
A gwawria y llynges o'r gorwel ystormus
Fel ynys o dân, fel bronnau Vesuvius;

A dringa y fflam hyd y meinion hwylbrenni,
A thania'r cymylau fel sychion groglenni;
A lleda y fellten ei haden fawr danllyd
Dros eigion y wybren, a thania'r awyrfyd.

Mae'r bleiddiaid yn rhedeg yn wyllt o'r mynyddau,
A'r defaid ar dân yng nghoelcerth y creigiau;
Ymdoddodd yr Alpau i lawr hyd y ddaear,
Diflannodd yr Andes fel mintai o adar;

A thynwyd coch aradr llidiawgrwydd Jehova
Dros wreiddiau Plunlumon a sail Himalaya.
Orwysg y ddaeargryn wrth godi'r mynyddoedd
O'u gwreiddiau, a'u taflu fel us dros y moroedd!

Mae'n siglo y ddaear, a syrth ei dinasoedd,
Tra'u beddau eanged a gwely y moroedd.
Clyw'r caerau yn syrthio, er bod eu sylfeini
Yn ddyfnach na'r beddau, yn gryfach na'r weilgi;

Gwywodd y tyrau fel niwl o'r uchelion,
Mae'r ddaear yn gruddfan dan faich ei hadfeilion,
A llynnoedd o dan, ac ystorom o fflamiau,
Sy'n dangos lle claddwyd dinasoedd yr oesau ;
Môr llydan yn ymyl, a'u mŵg o'r dyfnderau
Yn esgyn i'r nefoedd yn gymysg a'r fflamau.

Llefarodd Jehova! Y bryniau ni chafwyd,
Y myrdd o ddinasoedd - fel niwlen eu collwyd,