Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhed yr afonydd yn dân o'r dyffrynnoedd,
A llenwir eu gwely â llwch y mynyddoedd;
A thawdd yr ynysoedd i ganol y weilgi,
Mae'r creigiau o amgylch y moroedd yn toddi.

A'r môr, yn y poethwres sych yntau i fyny,
A bryniau o dân yn goleuo ei wely;
Crychferwa y moroedd gylch pegwn y gogledd,
A'u cloion agorant, ymdoddant o'r diwedd.

Dynoethir, dynoethir sylfeini'r mynyddau,
A syrth y cawodydd yn waed o'r cymylau;
Mae awrlais bytholfyd yn taro yn hyglyw,
A'r nefoedd yn gwawrio dros ludw'r ser heddyw.

Clyw fry yn ymagor ei miliwn o ddorau,
Mor eang, mor rwydd, ag adenydd y borau;
Ah! Dacw y Salem dragwyddol, a'i muriau
Yn aur hyd ei sylfaen, a'i phalmant o berlau;
A gortho o ser uwch ei phen yn ymledu,
"A NOS NI BYDD YNO"
Na chysgod y bedd i'w chymylu.

A darfu'r storom, a'r blinderau hwy;
Tragwyddol orffwys! Hedd tragwyddol mwy.

Y mae, y mae gwlad o anfarwol hedd,
A gwelaf hi yn gwawrio dros y bedd,
Mai 9.