"Ai Islwyn yw bardd mwyaf Cymru ?" "A ddaw barddoniaeth Islwyn byth yn boblogaidd ?" Dyna ddau gwestiwn ofynnir gan ddau fath o feddwl. Ar lawer ystyr, y mae gan Islwyn hawl i sefyll fel y bardd sydd, hyd yn hyn, wedi rhoi ffurf i wirioneddau mwyaf grymus ein dyddiau ni. Onid ef yw y mwyaf beiddgar o'n beirdd? Ac eto y mae ei chwaeth bur a dyrchafedig yn ei gadw rhag ymylu ar y rhyfygus. Ymgyfuna yr addolgar a'r beiddgar yn hapus ynddo.
Onid ef yw y mwyaf gwladgarol o feirdd Cymru? Y mae gwres ei wladgarwch yn angerddol. Pan ddarlunia Ganan neu'r nefoedd, am Gymru y meddylia; ac yn aml rhydd ffrwd i'w deimlad o gariad diderfyn tuag ati. Ac eto nid oes gennym fardd gred yn fwy cryf mewn cymdeithasu â meddylwyr mawr pob gwlad, na bardd a deimla fod brawdoliaeth dynolryw yn beth mwy cysegredig a byw. Ymgyfuna y gwladgarol a'r dyngarol ynddo.
Onid Islwyn roddodd lais cliriaf, tua chanol y ganrif ddiweddaf, i'r nerthoedd hynny deimlir heddyw yn anorchfygol? Un ydyw y rhyddfrydigrwydd meddwl sy'n hiraethu am y gwir. Un arall yw ymgysegriad cenedloedd, yn enwedig cenhedloedd bychain, i waith y mae Duw wedi ei ragarfaethu iddynt. Ac un arall yw y dychwelyd at yr Iesu. A ddaw Islwyn yn boblogaidd? Y mae yn boblogaidd yn barod. Y mae meddyliau Islwyn wrth fodd darllenwyr gwerinol Cymru. Ac nid yw hyn yn beth i'w ryfeddu ato, pan gofir mai Cymru yw gwlad yr Ysgol Sul, a gwlad y pulpud grymus Cymer meddwl Islwyn feddiant eto, yn fwy llwyr, o eneidiau ei gydwladwyr; a'i ddylanwad arnynt fydd er puro, a sancteiddio, a chryfhau.