Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—————————————

III. LLOFFION O DYWYSENNAU

—————————————

TYRD, EGWYL


TYRD, egwyl, pan dderbynnir dyn
Fel meddwl noeth i mewn i Dduw ei hun.
Anwylion bywyd mwy, i mi
Meddyliau noethion ydych chwi
Yn ol yn Nuw a thragwyddoldeb fry.
Y pell adgofion ! Ymgrynhoant hwy
O fewn fy enaid fel un meddwl mwy.

AR LANW O ADGOFION

AR lanw o adgofion
Fe lifa teg ddrylliau
Y llynges odidog
O fore bleserau ;
Gyda'r hon y cychwynnem
O borthladd ieuenctyd,
Mewn hafaidd awelon,
Rhy hafaidd, rhy hyfryd ;
A phan lifont i mewn gyda storm o adgofion,
Pa ddewrder all forio o amgylch y galon?