Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAE GAN Y NOS EI GWERSI TER


MAE gan y nos ei gwersi ter,
Aml fel y ser,
Ei chronfa o heuliau.

Y ser, beth ydynt? Bydoedd fry.
Ie, bydoedd i'r angylion. Ond i ni,
Gweinion lusernau.

A ydwyt fawr? Mae truan wrth dy ddôr,
Ymostwng, dyro iddo ran o'th stôr ;
Na fydd rhy fawr. Mae'r bydoedd mwyaf fry
Trwy'r oesau'n cael eu galw yn lampau gennym ni,
A boddlawn ydynt, a thrwy ffenestri 'r nen,
Ar syml wiriondeb dyn gwenant uwchben.

MORGAN HOWEL

WRTH araf ddisgyn tua'r bedd ororau,
A chwmwl angau yn pruddhau ei wedd
Ymlonni wnai yng ngwên y seren fora,
Ac yn ei golau fythol ddydd a hedd;
A gobaith adgyfodiad, i chwalu niwl y bedd.

Y gobaith teg, fel paladr byw
O'r gloewaf haul yn nennau Duw,
Siriolai olaf awr ei yrfa brudd,
Gan euro hwyr ei oes, nawn ei fachludol ddydd.

Na choller deigryn ar ei fedd,
Ei ddôr i ddydd, ei borth i hedd ;
Boed llygad yma'n sych, a'r dôn yn effro,
Byth na neshawn at feddrod sant i wylo.