Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TLWS, OND TLYSACH

TLWS yw gwawr y myrdd rhosynau
Ar y fron yn gwrido sydd,
Chwery iechyd ar eu gruddiau,
Chwarddant yn yr awel rydd ;
Tlysach ganwaith yw rhosynau
Sobrwydd yn eu nefol wrid,
Plant yn gwreiddo mewn rhinweddau,
Uwch pob storm i wywo'u pryd.

Mwyn yw si y dlos afonig
Yn y dyffryn teg islaw,
na'r adar yn y miwsig,
Dawnsia'r goedwig werddlas draw;
Mwynach ydyw sain canigau
Lluoedd Gobaith yn ein tir,
Pan yn arllwys brwd deimladau
Mewn anthemau sobrwydd pur.

Hardd yw'r wawr ar ben y bryniau
Yn ymlidio gwyll y nos,
Haul yn saethu ei belydrau,
Gan roi bywyd yn y rhos;
Harddach gweld morwynig Sobrwydd
Yn ymlidio'r meddwol gawr ;
Duw, o fangre ei sancteiddrwydd
Yn rhoi gwên a nerth i lawr.