Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GWAWRIA CANRIFOEDD
GWAWRIA canrifoedd
Fel ser ar y nefoedd;
Oesoedd ar oesoedd
Redant ar gylchoedd,
Ar eu holwynion
Llathr a mwynion;
A phan y darfyddant,
Fel ser y diflannant;
Myrdd, myrdd yn dylifo
Heb neb yn eu rhifo.
Bydd oesoedd ar oesoedd
Ar rod anherfynol,
Fel cylchau y nefoedd
Yn troi yn olynol.
Dan wenau Duw byddant
Yn hir ymfwynhau,
Ar arian draeth amser
Fel llanw a thrai,
Fel Eden o flodau
Yn agor a chau.
CAN Y GWAREDIGION
'I dderfydd yno'r anthem bêr
Am haeddiant Iesu a'i glwy;
Pan losgo r byd, pan syrthio'r ser,
Yn canu byddant hwy.