Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYDD TRAMWYFA FAWR O SER

BYDD tramwyfa fawr o ser
Fyth rhwng y byd a'r wynfa bêr.

A hyd-ddi daw angylion nefoedd,
Ar bererindod trwy y bydoedd ;
Ac wrth y dyfroedd cwyd eu llu,
Eu gwawl ddinasoedd gyda ni.

A phrennau bywyd ddygant hwy,
O fryniau tragwyddoldeb mwy;
I'w plannu dan awelon Ior
Ar erfawr gylch o for hyd for.

Awelon bywyd ar eu brig
Orffwysant fel anthemau myg;
A bedd ni faidd ymagor mwy,
Dan wawr eu bywiol gangau hwy.

Cenhedloedd yn eu cysgod chwarddant,
A rhos paradwys yno darddant;
A themlau fyrdd, fel blodau, 'n awr
A dyfant dan eu dwyfol wawr.

Ac ni fydd adsain galar mwy
Yn gorffwys ar eu cangau hwy;
Na gauaf oer, nac anadl angau,
Yn tywallt gwywdra ar eu cangau.

O lwch y codwm, adfail byd,
Areulfro Eden wawria i gyd;
A'r cleddyf ysgwydedig glain
Fyth gleddir yn y ddwyfol wain.