Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DATGUDDIAD NEWYDD

FFYDD gynt anturiai ar dystiolaeth noeth,
Ymylon athronyddiaeth gul y byd,
Dros bellaf glogwyn ymherodraeth Rheswm,
I awyr bell y Datguddiedig Air,
Lle nid oedd ond adseiniau bregus o
Leferydd tystiolaethol Ior, a swn
Ei Ysbryd mawr yn symud yn y niwl,
Tra glannau Tragwyddoldeb oddi draw
Yn araf, araf wawrio. Elai 'mlaen,
Dan ganu, ar y dyfnder ; a pharhai
I gredu ac i gredu, a thrachefn
I feiddio credu, tra y safai myrdd
Ar lannau gloewach Rheswm, i fwynhau
Dy olygfeydd agosach di, O Amser,
Gan ofni suddo mewn dyfnderoedd, lle
Ni feiddiai Rheswm ganlyn byth, na dal
Ei eiddil lamp uwchlaw yr eigion du.

Bydd y gair
Lefarwyd gan angylion, oesau 'n ol,
A gweledigaeth y proffwydi gynt,
Yn troi yn olygfaoedd tanbaid mwy.
A gesyd ffydd ei beiddgar droed i lawr
Ar ffeithiau trymaf Duwdod. Bydd ei sail
Ar fydoedd dymchweledig, ar fawrhad
Uchelaf, pellaf addewidion Duw,
Y cyfan a addawyd ganddo Ef
O ddorau Eden hyd derfynau'r byd,
O'r tragwyddoldeb cyntaf hyd yr ail.