Yn rhwystro ini a rhedeg
Yr yrfa sydd o'n blaen,
A ffoi fel Lot o Sodom
Cyn yr elo i gyd ar dân.
Ond doed hi fel y delo,
Daw arfaeth Duw i ben,
Fe gesglir oll a brynwyd
Gan Iesu ar y pren;
Efengyl Iesu a lwydda
Dros wyneb ehang fyd,
A'r son am dano a leinw
Y ddaear fawr i gyd.
- Llanrhaiadr, Medi 30, 1797.
FFARWEL Y CENHADWR.
Copi o lythyr a anfonodd John Davies (yr hwn a aeth yn un o genhadau y Gymdeithas Genhadawl yn Llundain i'r diben i ddysgu paganiaid ynysoedd Môr y Dehau yngwybodaeth o'r gwirionedd) at ei gyfeillion, o Bortsmouth, ar ei gychwyniad i'r fordaith.
- Mai 8ed, 1800.
At bawb o'r cyfeillion crefyddol cynulledig yn
Pont Robert.
FY ANWYL GYFEILLION, BRODYR, A THADAU,—
Perthynas â chwi fel cymdeithas grefyddol sy'n fy rhwymo i'ch cofio, yn neillduol oddiwrth bawb eraill y Nghymru. Coffadwriaeth am oriau melus a dreuliais gyda chwi yn y mwynhad o foddion gras ac ordinhadau'r efengyl, sy'n peri i mi eich cofio, gyda galar a llawenydd yr un pryd,—galar pan alwyf i gof fy anffrwythlondeb yngwinllan fy Arglwydd, a llawenydd wrth feddwl am fy nghyfeillion, yr rhai y bu felus gennym gydgyfrinachu wrth fyned i dŷ Dduw ynghyd. Mae achos