Tudalen:Gwaith John Davies CyK.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o lawenydd imi, nid imi golli eich cyfeillach; ond y ceir cyfeillach yn parhau, ac y byddwn oll yn mhen ychydig yn mwynhau cyfeillach ein gilydd yn y byd tu draw i ofid.

Yr wyf yn teimlo heddyw ddiolchgarwch am y breintiau a fwynheais yn eich plith, am i mi gael fy ngeni yn swn yr efengyl, am fod gennyf le i obeithio iddi gael ei gwneuthur yn allu Duw er iechydwriaeth. Ac yn wyneb llygredd fy nghalon, ynghyd a byddinoedd lluosog o elynion o'r byd ac o uffern, yr wyf yn dymuno myned ymlaen yn enw Duw byddinoedd Israel.

Fy anwyl gyfeillion, yr wyf yn meddwl fy mod yn anaddas i roddi cyngor i neb ohonoch. Eto dymunwn adgofio i'm tadau, y rhai ddioddefasant bwys a gwres y dydd, na bydd i un math o dywydd eu digalonni na'u llwfwrhau. Dymunaf gymorth o'r nefoedd iddynt i lywodraethu y praidd, i geisio y darfedig, i ddiddanu y gwan ei mheddwl, i dynnu'r cedyrn o'u heisteddfaoedd, ac i ddigaregu'r ffordd fel na byddo i'r gweiniaid dramgwyddo yn eu ffordd tua Seion.

Dymunaf annerch fy nghyfoedion, fy mrodyr a'm chwiorydd ieuainc. O fy nghyfeillion, gan i chwi gael y fraint o listio dan faner Iesu, gobeithio na bydd i neb ohonoch fel Ephraim droi eich cefna yn nydd y frwydr. O fy mrodyr, gweddiwch am gael eich cadw'n ddigwymp, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac y'nghadernid ei allu ef. Ond cadw yn agos at ein Captain, ni raid ini ofni colli'r frwydyr. Da genyf feddwl yn y dyddiau hyn fod pob awdurdod yn y nefoedd a'r ddaear yn llaw Iesu, pen mawr yr Eglwys, mai efe yw Brenin y brenhinoedd, Arglwydd y lluoedd mewn nefoedd,