Tudalen:Gwaith John Davies CyK.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daear, ac uffern. Wrth ei orchymyn fe wna a fynno â llu'r nef a thrigolion daear, ac fe garia'i waith ymlaen drwy bob gwrth'nebiadau.

Fy anwyl gyfeillion, yr wyf yn taer ddymuno am eich llwyddiant, a bod i'r Arglwydd chwanegu at eich rhifedi o nifer y cyfryw ag y fyddant gadwedig. Cofiwch am danaf, fy mrodyr, wrth orsedd gras. Gallwn gydgyfarfod yno er fod rhyngom, fe alle, lawer mil o filldiroedd.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll, gyda phawb ohonoch, fy mrodyr. Amen ac amen.

Mewn brys oddiwrth eich brawd a'ch cyfaill,

JOHN DAVIS.