efrydydd iddo; ac yna i Ffrwd y Fâl, ond ni rydd yr un olwg ar Dr. Davies ag a rydd rhai o'r disgyblion eraill. Yn 1842 ymsefydlodd fel gweinidog Bwlchnewydd, yn sir Gaerfyrddin ; yn 1850 symudodd i Glyn Nedd; ac yn 1854 symudodd i Lerpwl, lle y bu hyd ei farwolaeth yn 1891.
Yr oedd yn un o dywysogion pulpud Cymru, yn un o'i gwleidyddwyr grymusaf, yn un o'r haneswyr mwyaf manwl a llafurus, ac yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf goleu a miniog fu'n gwasanaethu egwyddorion erioed.
Yn 1898 cyhoeddwyd Cofiant teilwng gan ei fab, y Parch. Owen Thomas, M.A., Llundain, a'r Parch. J. Machreth Rees; gyda phennod ddyddorol gan ei fab arall, Mr. Josiah Thomas. Yn hwnnw ceir golwg ar yr holl yrfa lafurus, y pregethu, y bugeilio, y llenydda, Coleg Aber- honddu, ac ysgrifenu "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru."
Swynwyd fi gan ei hunan-gofiant, lle y rhydd ddarlun clir a byw o ymdrech efrydydd i gael addysg yn nechreu'r ganrif ddiweddaf. Trwy garedigrwydd ei ddau fab,—y Parch. Owen Thomas a Mr. Josiah Thomas,—wele ran gyntaf yr hunangofiant yn llyfr hylaw. Ceir y gweddill o hanes y bywyd diflino yn y Cofiant; nid oes yma ond hanes yr efrydydd, hyd at ei sefydlu mewn eglwys fechan yn y wlad.
- OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,
- Dygwyl Dewi, 1905.