Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phregethais yn Melincwrt ar fy ffordd. Digwyddodd fod Cyfarfod Ailagoriad Soar, Castell Nedd, ar y pryd, a rhoddwyd fi i bregethu y noson gyntaf gydâ Davies, Mynydd Bach. Drannoeth, yr oedd Price, Cwmllynfell, a Jones, Castle Street, Abertawe, yn pregethu am ddeg; Jones, Clydach, am dri; a Morgan, Llwyni, a Griffiths, Alltwen, yn yr hwyr. Yr oedd yn gyfarfod hwyliog iawn. Oddiyno aethum i'r Maesteg, lle yr arhosais dri Sabboth. Nid oedd yr achos ond dechreu. Cyfarfyddent mewn hen gapel bychan oedd wedi ei adael yn ddiwasanaeth; ond un nos Sabboth pregethais mewn ystafell eang mewn cwrr arall i'r Dyffryn, yn uwch i fyny. Arhoswn yn nhŷ yr hen bregethwr Rhys Powell, ond pregethwn y nosweithiau mewn lleoedd oddiamgylch. Bum yn y Cymer hefyd un noson. Yr oedd Capel Soar yn cael ei godi ar y pryd. Yr oedd yno ychydig bobl ffyddlon, ond mai isel eu hamgylchiadau oeddynt gan mwyaf. "Sarah Maesteg," fel ei gelwid, oedd fwyaf ei dylanwad, a hi oedd y fwyaf gwybodus o honynt 'oll. Merch o sir Gaer- fyrddin ydoedd, a ddaeth drosodd i wasanaethu i fferm Maesteg, ac a briododd ei mheistr. Ni dderbyniais alwad ffurfiol oddiwrthynt, ond yr oedd rhyw gyd-ddealldwriaeth rhyngom fy mod yn myned i aros yno hefyd, er nas gallent addaw i mi ond ychydig: Ni theimlwn unrhyw hoffder at y lle, ac nid oedd yn yr achos ddim yn ddeniadol; ond gan nad oedd un drws arall yn agor, yr oeddwn yn penderfynu aros yno. Yr oedd gennyf ryw bethau wedi eu gadael yn Llanelli, ac yn Nhrefdraeth, a phenderfynais fyned i gyrchu y rhai hynny. Yr oedd yn awr yn ymyl Nadolig,