1841. Yr oeddwn nos Nadolig yn pregethu yn y Rock, Cwmafon, ac yr oedd Mr. Jones, Clydach, wedi dyfod yno i bregethu yn y plygain bore drannoeth. Aethum hyd Lanelli, lle yr oeddwn y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1842. Dywedodd Thomas Jones, Abertawe, wrthyf ar ol hynny ei fod ef a Henry Rees, Ystrad Gynlais,—Kansas yn awr—yn fy ngwrando yn nghapel Als y bore hwnnw; y ddau ar y pryd yn aelodau gyda'r Methodistiaid, ond yn llawn ysbryd pregethu. Yr oeddwn yn myned i lawr yr wythnos ddilynol i Drefdraeth, ac wedi anfon ychydig gyhoeddiadau ar y ffordd; ac wedi anfon y buaswn y Sabboth dilynol yn Bwlch Newydd, yr hwn le oedd ar y pryd yn wag Yr oeddwn yn Nhrefdraeth nos Fawrth, ac yr oedd y capel yn orlawn a llawer mewn teimladau dwys. Mynnent i mi aros yno, ac ni buasai dim yn haws i mi na chael mwyafrif mawr yr eglwys o'm plaid, ond gwrthodais. Aethum ymaith yn fore drapnoeth, wedi casglu y cwbl a feddwn ynghyd, ac nid oedd hynny ond ychydig. Bu rhai o honynt yn garedig iawn i mi fel na chefais fyned ymaith yn waglaw. Yr oeddwn yn Llwyn yr Hwrdd nos Fercher, ac wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Nhrelech ganol dvdd Iau. Cefais yn Llwyn yr Hwrdd fod Cymanfa Ysgolion i fod yn Nhrelech, a dymuniad am i mi fod yno yn fore. Yr oedd y capel yn orlawn. Gosodwyd fi i holi un o'r ysgolion, allan o Holwyddoreg Mr. Hughes, ac ymddengys ddarfod i mi wneyd hynny yn foddhaol iddynt. Hebryngwyd fi gan un o feibion Owen Picton, Glanrhyd, hyd Ffynnon Bedr. Erbyn cyrraedd cefais fod Cymanfa Ysgolion
Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/102
Gwedd