Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVII. BWLCH NEWYDD.

Yr oeddwn yn myned i Gibeon nos Wener, a daeth James Thomas gyda mi. Ar y ffordd dywedodd wrthyf mai y peth cyntaf a ddywedodd John Davies wrtho wedi dod o'r capel yn Ffynnon Bedr oedd,—" Dyna weinidog Bwlch Newydd." Dydd Sadwrn, yng Nghaerfyrddin, cyfarfu John Davies mae'n ymddangos ag amryw o aelodau Bwlch Newydd, a'r un peth a ddywedai wrth bawb, fel erbyn i mi fyned yno bore Sabboth yr oedd llawer yn disgwyl am danaf, ac y mae yn bur sicr fod eu disgwyliadau wedi eu codi yn rhy uchel, yr hyn oedd i mi yn anfantais. Pregethais nos Sadwrn yn Nhroed Rhiw Meirch, lle y cedwid y mis. Yr oedd John Thomas, Gideon,—Mr. Thomas, Bryn, yn awr—i fod hefyd yn Bwlch Newydd y bore hwnnw, yntau yr un modd yn curo i fyny. Yr oedd hynny drachefn yn anfantais. Pregethais yr hen bregeth oedd yn arfer myned, —"Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddyw i'r Arglwydd ?" Aeth yn lled dda, ond gwelais hi yn gwneyd yn well lawer gwaith. Clywais fod John Thomas, Gideon, yn dweyd mai gaseg coach," ydoedd, "bron wedi rhedeg" maes. Sylw digon gwir a digon naturiol, a digon goddefol, yn enwedig lle yr oedd tipyn o gydymgais. Yr oedd gennyf erbyn hyn amryw o bregethau newyddion, y rhai a wnaethwn yn Nhrefdraeth a Llanelli, a Maesteg; ond yr oedd gennyf fwy o ymddiried yn yr hen rai i wynebu cynulleidfa am y waith gyntaf. Aethum i Cana erbyn dau o'r gloch, ar ol cyhoeddiad a anfonaswn, ond gwasgwyd arnaf i ddychwelyd i'r Bwlch Newydd erbyn yr hwyr, er nad oedd