Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

prgeth byth yn arfer bod yno yn y nos oni ddelai cyhoeddiad rhywun. Ar ddiwedd y Sabboth ceisiwyd gennyf i aros yno dros ychydig. Dywedais fod gennyf gyhoeddiadau ar hyd yr wythnos ddilynol ar y ffordd i Maesteg erbyn y Sabboth; ond meddai un hen frawd, John Davies, Crynfryn, wrthyf,—"Os dewch chi yn ol yma erbyn y Sabboth nesaf, chi gewch fenthyg pony bach gen i i fyned ar ol eich cyhoeddiadau, trwy yr wythnos." Yr oedd hwnnw yn gynnyg rhy dda i'w wrthod, ac oblegid hynny derbyniais ef. Aethum i'r Crynfryn i gysgu. Gadewais y sypyn dillad oedd gennyf yno, a bore Llun, cychwynnais yn falch iawn ar gefn y pony am Bencadair, a Throed y Rhiw, a Penuel, a Siloam a Phen y Groes, ac hyd Cross Inn. Yr oeddwn yn tybied fy hun yn dipyn o ddyn ar yr anifail, er mai benthyg oedd, a rhagolwg lled obeithiol am le i aros. Dychwelais nos Wener i Plas Mynydd, i dŷ y Parch. D. Evans, Pen y Graig. Yr oedd ef wedi gweled John Davies, Plasparciau, y Sadwrn blaenorol yn y dref, ac wedi i mi ddweyd wrtho pa fodd y bu y Sabboth, a'r amodau ar y rhai yr addewais ddychwelyd yno erbyn y Sabboth dilynol, teimlai ef fod popeth yn berffaith ddiogel. Pregethais yno y Sabboth hwnnw a'r un dilynol, ac ar y Cymundeb daeth Mr. Davies, Pant Teg; yno. Lletywn yn y Crynfryn, lle y cawn bob croesaw yn eu ffordd wledig hwy. Nid oedd yno wraig, dim ond morwyn. Buasai ef yn ddiacon, ond aethai dan gwmwl rai blynyddau cyn hynny, ac nid oedd ond yn ddiweddar wedi ei adfer yn aelod. Yr oedd yn glyd ei fyd, a chryn lawer o'i berthynasau yn yr eglwys. Ym mis Chwefror,