yr oedd Cyfarfod Chwarterol yn Llanelli, a disgwyliwn i'r achos gael ei roddi o flaen yr eglwys cyn hynny, fel y gellid hysbysu yno am yr urddiad, fel yr oedd yn arfer y pryd hwnnw. Yr oedd yn ddeddf yn sir Gaerfyrddin, ac yn y rhan fwyaf o siroedd y De, na urddid neb heb i hysbysiad o hynny gael i wneyd yn y Cyfarfod Chwarterol; nid i dderbyn eu cymeradwyaeth, ond er mwyn rhoddi boddlonrwydd fod y dewisiad yn unol, ac fel na byddai i neb mewn anwybodaeth gael eu hudo i fyned i urddiad pan y gallasai fod rhywbeth yn erbyn yr urddedig, neu yr eglwys yn rhanedig ar ei achos. Nid oeddynt mewn un modd yn ymyraeth â dewisiad yr eglwysi, ond yr oeddynt yn diogelu eu hunain rhag cymeryd rhan yn urddiad neb heb gael sicrwydd fod pobpeth yn foddhaol. Yr oedd yr hen weinidogion, Davies, Pant Teg; Rees, Llanelli; Griffiths, Horeb; Jones, Penybont; Jones, Tredegar; ac eraill a edmygir fel "yr hen Anibynwyr," yn selog iawn dros y drefi hon. Aethum i'r Cyfarfod Chwar terol i Lanelli gyda Mr. H. Hughes, Trelech, a Mr. Evans, Pen y Graig; a dyna y pryd y deallais gyntaf nad oedd y teimladau goreu rhwng pawb o weinidogion y sir. Ffromodd Mr. Hughes, Trelech, yn fawr wrth Mr. Rees, Llanelli, oblegid iddo gyhoeddi Mr. Williams, Llandeilo, i bregethu ar ei ol ef, ac yntau yn gymaint hynach fel gweinidog. Gwnaeth Mr. Williams bob ymgais i gael pregethu yn gyntaf, ond ni chaniatai Mr. Hughes; ac yr oedd yn eglur ar Mr. Rees mai fel y cyhoeddodd y mynnai iddi fod; ac yn ddiau, i ddylanwad yr oedfa, felly yr oedd oreu. Yr oedd Mr. Williams yn llawn mwy doniol ei draddodiad,
Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/106
Gwedd