Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond yr oedd cyfansoddiad pregeth Mr. Hughes yn Hawer mwy gorchestol.

Yn y cwrdd eglwys, yr ail ddydd Mawrth yn mis Mawrth, rhoddwyd ger bron yr eglwys i roddi galwad i mi. Yr oeddwn yn bresennol yn gweled ac yn clywed y cwbl. Pasiwyd yn hollol unfrydol. Arwyddodd y diaconiaid hi yn y fan, "dros, ac yngwydd yr eglwys.". £28 yn y flwyddyn o gyflog a addewid i mi, a rhoddid i mi un Sabboth yn y mis yn rhydd, ac un gwasanaeth y Sabboth a ofynnid am y tri Sabboth arall, fel, pe buasai eglwys arall yn gyfleus yn rhoddi galwad i mi, yr oeddwn at fy rhyddid i'w derbyn. Nid oedd y Cyfarfod Chwarterol i fod hyd ddechreu Mehefin, yn Llanboidy, ac felly yr oedd yn rhaid aros hyd ar ol hynny cyn cael yr urddiad, a phen- derfynwyd iddo fod yr wythnos ddilynol. Aethum ddydd Mawrth ar ol y Cwrdd Eglwys i'r Posty Isaf, at William James a'i wraig Ann—fy chwaer yo nghyfraith wedi hynny—ac yno y cymerais fy llety. Yr oedd yn lle llawer mwy dymunol, a phob cysuron i'w cael yno yn well nag mewn un lle arall; er y gwyddwn mai gwell fuasai ganddynt i mi aros yn rhywle yn nes i'r capel, er na ddywedodd neb air wrthyf ond a ddywedodd John Thomas, Crynfryn, pan aethum yno i ymofyn yr ychydig bethau oedd gennyf,—"'Roeddwn i yn meddwl y buasai pobl fawr y gwaelod yna yn mynd a chi," meddai. Gwrthododd gymeryd dim am fy lle, a dywedodd y gallaswn aros yno yn hwy ar yr un telerau. Ond nid oedd yno le cysurus, heblaw fy mod erbyn hyn yn dod i wybod tipyn am y bobl. Cyfarfyddaswn ychydig cyn hynny â hen wr hanner paganaidd, o'r enw John