Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"mewn tri pheth y credai-gweinidog Bwlch Newydd, tamed o gig myharen, a dyferyn o dablen—ac mai tri pheth a felldithiai—priodas, crefydd gymdeithasol, a gwŷr Heol Awst." Mae llawer o wir yn y sylw. Un bychan pigog ydoedd, ond cefais i er, tra y bum yno, yn drwyadi ffyddlon. Eglwys dlawd ar y cyfan oedd eglwys Bwlch Newydd, a'i phechod parod oedd diota. Nid oedd rhai o'r dynion goreu yn rhydd oddiwrth hynny.

Yn ystod yr amser y bum yno cyn fy ordeinio, newidiwn ar y Cymundeb ag un o'r gweinidogion. Bu Mr. Evans, Pen y Graig, a Mr. Lewis, Henllan, ac nid wyf yn cofio pwy arall, yn fy lle. Bum yn urddiad Henry Davies yn Bethania, ac yn agoriad Soar, Hen Dy Gwyn, ac yng Nghyfarfod Chwarterol Llanboidy, ac yng Nghymanfa Trefgarn, yn y cyfamser. Hysbysodd Mr. Davies, Pant Teg, yng nghyfarfod Chwarterol Llanboidy, fy mod wedi cael galwad, a bod yr eglwys yn hollol unol, a bod yr urddiad i fod yr wythnos ddilynol, a gwahoddodd y gweinidogion oll i fod yn bresennol, y rhai a ddaethant yn lluosog. Urddwyd fi Mehefin y 14eg a'r 15fed, 1842.