Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig eiriau. Dywedid ei fod yn ei ddydd yn ddoniol iawn fel pregethwr, a'i lais yn swynol ryfeddol; ond cafodd glefyd trwm iawn ychydig flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, a dywedai llawer wrthyf na bu efe byth yr un wedi hynny. Yr oedd yn barchus iawn gan yr holl eglwysi, ond un meddal ydoedd; ac er ei fod yn ddyn pur hollol ei hun, eto yr oedd yn rhy barod i noddi dynion gwaelion. Taflodd ei aden dros un, yn arbennig, nad oedd uwchlaw amheuaeth, a pharodd hynny fesur o anghydwelediad rhyngddo â Mr. Rees, Llanelli, ac eraill yr arferai gyd. weithio â hwy. Pan ddaeth dirwest i'r wlad gwrthododd Mr. Davies, Pant Teg, ymuno, a chymerodd eraill yn ei gysgod achlysur i sefyll draw. Bu hynny yn help i oeri teimladau.

John Breese, Caerfyrddin, oedd bron yn gyfoed a Mr. Davies. Yr oedd efe wedi dechreu gwaelu pan aethum i'r wlad, a bu farw yn y mis Awst canlynol. Yr oedd efe yn gefnogol iawn i mi, bu raid i mi fyned i bregethu i Pentre Hydd, lle yr oedd yn aros, er mwyn iddo fy nghlywed; ac yn y Gwanwyn daeth ryw noson i'r Aber i bregethu. Daethum yno i'w wrando o urddiad fy nghyfaill, Henry Davies, Bethania. Pregethai yn dda ac ymarferol oddiar y geiriau, “Brysiais ac nid oedais gadw dy orchymynion," ond yr oedd wedi gwanychu yn ddirfawr er pan y clywswn ef flwyddyn cyn hynny. Nid wyf yn meddwl iddo fod fawr oddicartref wedi hynny. Lletywn gydag ef y noson honno yn Aberhentian. Pesychai yn drwm drwy y nos. Yr oedd yn ddyn cryf, crwn, cydnerth, ac yn un y gallesid disgwyl iddo fyw hyd bedwar ugain oed; ac yr wyf yn credu y