Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfansoddiad yn fwy gorffenedig. Ond nid oedd yn meddu ar danbeidrwydd, ac ystwythder, a hyawdledd traddodiad Mr. Breese. Cyfyngai Mr. Hughes ei lafur bron yn gwbl i'w bobl, ac yr oeddynt yn synied yn uchel am dano. Anaml yr elai oddicartref oddigerth i'r Gymanfa, ac i'r Cyfarfod Chwarterol os digwyddai fod gerllaw. Ond yr oedd yn ffyddlon i boll sefydliadau yr enwad, a byddai yn hynod o garedig pan ymwelid ag ef. Yn ei lyfrgell y ceid ef fynychaf yn darllen neu ysgrifenu. Ychydig o allu cynyrchu oedd ynddo. Cyfieithiad oedd yn mron y cwbl o'i bregethau, ond cyfieithiad o ddarnau detholedig, y rhai a saerniai ac a osodai ei hun mewn trefn. Mewn amgyffrediad o'r gwirionedd, a gallu i'w osod mewn ffurf a threfn, yr oedd yn fwyaf nodedig. Colled ddirfawr i'r holl wlad oedd iddo farw yn ddwy flwydd a deugain oed.

Mr. Joshua Lewis, Henllan, oedd un o'r dynion ieuainc mwyaf dysgedig ac addawol yn y wlad. Yr oedd ef yn rhyw bedair blwydd oed o weinidog pan aethum i'r sir, ac urddasid ef yn gydweinidog â'r Hybarch John Lloyd. Nid oedd yn ddoniol, eto pregethai yn fywiog, a phob amser yn ymarferol. Yr oedd tuedd athronyddol i'w feddwl; cychwynnai gyda rhyw wirionedd, a dilynai hwnnw i ba le bynnag yr arweinid ef ganddo. Adeiladwaith gref a gorffenedig fyddai pregeth Mr. Hughes, Trelech, at yr hon y casglai y defnyddiau o bob man; ond coeden yn tyfu ac yn ymganghenu oedd pregeth Mr. Lewis, Henllan. Byddai ei bregeth yn llawn eglurhadau,—nid chwedlau—a'r rhai hynny yn chwaethus dros ben. Ei brofedigaeth yn ei flynyddoedd cyntaf oedd