Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn rhy glasurol ac arddansoddol. Dyn da iawn ydoedd, pur o galon, pur ei ymadroddion, a phur ei fuchedd. Ei brofedigaeth oedd cymeryd i fyny â hobbies, a marchogaeth y rhai hynny nes y byddai efe ei hun, a phawb arall, wedi blino arnynt. Bu am flynyddoedd yn un o'r dirwestwyr mwyaf selog a manwl, ond, ar ol hynny, llyncodd ryw syniad eithafol am ysprydolrwydd crefydd, nes myned i gredu fod crefydd ysprydol yn codi dyn uwchlaw pob ymrwymiad dirwestol, ac ar yr un pryd yn ei godi uwchlaw arferion yfol oddieithr o dan amgylchiadau eithriadol. Dibriod fu drwy ei oes. Siomwyd ef yn ei gynlluniau; onide, mae'n bur siwr, pe cawsai wraig yn ymgeledd gymhwys iddo, yr ychwanegasai yn fawr at ei ddedwyddwch a'i ddefnyddioldeb. Efe yn ddiau oedd un o'r dynion goreu a adnabyddais erioed ; a thynnodd ei gwys yn uniawn i'r terfyn; er iddo yn ei flynyddoedd olaf gael ei analluogi gan ergyd o'r parlys i gyflawni ei weinidogaeth.

Mr. David Rees, Llanelli, oedd yr enwocaf a'r mwyaf dylanwadol o holl weinidogion sir Gaerfyrddin yn yr adeg honno, os nad efe, yn wir, oedd y mwyaf poblogaidd yn Neheudir Cymru. Nid oedd ond dyn deugain oed; ond yr oedd mewn amgylchiadau bydol gwell nag odid neb o'i frodyr,—yn olygydd y Diwygiwr, yr hwn a ddarllennid gan filoedd,—yn ddyn o yspryd diwygiadol yn wladol, cymdeithasol ac eglwysig,—yn meddu ewyllys gref a phenderfyniad diysgog,—yn bregethwr doniol a phoblogaidd,—yn weinidog egniol a llwyddiannus; a'r pethau hyn yn nghyd a gyfrifai am ei ddylanwad. Yr oedd cyn ei fod yn