Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyth mlwydd o weinidog yn fynych yn cael ei alw i lywyddu Cynhadleddau y Cymanfaoedd, ac i bregethu yn y prif oedfaon. Yr oedd ei ddawn a'i gloch yn hynod o soniarus, ac weithiau, gydag adroddiad ambell i hanesyn tarawiadol, byddai yn dra effeithiol. Yn ei ysbryd diwygiadol yr oedd ei ragoriaeth, a'i allu i daflu ei ysbryd ei hun i bawb a ddelai i gyffyrddiad ag ef. Ni lefarodd neb erioed yn groewach ac yn gryfach o blaid pob mesur o ddiwygiad gwladol, a thros yr egwyddor fawr o gydraddoldeb crefyddol nag y dadleuodd ef. Yn wir, yr oedd yn ngolwg llawer o'i frodyr yn rhy eithafol, ond ni pharodd hynny iddo ostwng ei dôn—na lliniaru ei iaith—nac mewn un modd beri iddo ddirgelu ei olygiadau. Yr oedd yn ddyn calonnog ac agored, yr hyn a roddai iddo ddylanwad helaeth dros y rhai a ymwnaent ag ef. Cymerodd i fyny gyda dirwest o ddifrif, ac yr oedd y tô o weinidogion ieuainc yn ddilynwyr ffyddlon iddo. Er na bu yfed erioed yn brofedigaeth iddo; ac er ei fod yn nodedig o gymedrol yn ei arferion yn yr adeg ddiotgar y dechreuodd ei oes, eto gwelodd fod y gymdeithas ddirwestol y peth oedd yn ateb cyflwr y wlad, a thaflodd holl bwysau ei ddylanwad o'i phlaid. Yr oedd yn un llym iawn yn erbyn dynion llygredig, ac yn enwedig yn erbyn gweinidogion llygredig; ac nis gallesid disgwyl gair da iawn iddo gan y rhai hynny, er iddo hefyd fod yn foddion i waredu amryw ohonynt oedd ar y dibyn. Yr oedd yn fywyd pob cyfarfod lle y byddai, ac yn y teuluoedd lle y lletyai nid oedd neb a hoffid yn fwy. Yr oedd yn ddyn gwir dda, megis trwy ryw reddf yn wastad o blaid yr hyn oedd uniawn.