Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd o dymer hapus mewn un modd,—yn aml dywedai eiriau fel brath cleddyf; ac nis gallai ennill ewyllys da neb, wedi ei golli. Ymadawodd nifer o aelodau o Ben y Graig mewn terfysg, ac adeiladasant Ramah, ac aeth amryw o weinidogion y sir i bregethu iddynt. Chwerwodd hynny ef yn fawr, a pharodd iddo gadw draw o gyfarfodydd y sir oddieithr yn anaml. Ond yr oedd yn ddyn da, crefyddol, a chydwybodol, ac yn ei gylch uniongyrchol gwnaeth lawer o les. Nid oedd yn y wlad well gweinidog.

Mr. William Williams, Llandeilo, oedd y pryd hwnnw yn anterth ei ddydd, ac fel pregethwr doniol y mwyaf poblogaidd yn y sir. Yr oedd ei ddawn yn ysgythrog; ac heb ei ddawn a'i wres ef gyda'r traddodiad, buasai llawer o'r pethau a ddywedai yn cael eu cyfrif yn arw, os nad yn isel. Cydmariaethau gwledig a ddefnyddid ganddo, ac yr oedd eu naturioldeb, a chyfarwydd-deb y bobl a hwy, yn peri fod mynd arnynt. Nerth oedd nodwedd ei weinidogaeth, nerth i ymosod ar ddrygau, a nerth i ymlid ar ol pechod a phechaduriaid, yn fwy na nerth meddwl i egluro a debongli y gwirionedd. Yr oedd yn ddyn o ddawn mawr ym mhob man, a phan ddechreuai gymeryd dyn i fyny, neu wneyd gwawd o hono, nid oedd terfyn. Trahaus yn hytrach ydoedd yn ei ffordd, a pha le bynnag y byddai, cariai y llywodraeth â llaw gref. Ond fel pregethwr yr oedd yn ddoniol a phoblogaidd. Heblaw y rhai a nodwyd, yr oedd eraill yn sir Gaerfyrddin pan sefydlais yno, nas gallaf fanylu