Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnynt, ac felly rhaid i mi eu gadael heb ond prin grybwyll eu henwau. Mr. William Davies, Llanymddyfri, oedd ddyn diniwed a doniol. Mr. David Jones, Gwynfe, oedd hen wladwr gwybodus a deallgar. Mr. David Williams, Bethlehem, oedd wr crefyddol a ffyddlon. Mr. Evan Jones, Crug y Bar, oedd ddyn craff a deallgar, ac o ewyllys gref. Mr. Thomas James, Tabor, oedd dywysog llonydd." Mr. Rees Powell, Cross Inn, a geid yn wastad "yn canu yn dda". Mr. Thomas Jenkins, Penygroes, oedd ddarn o aur pur heb ei gaboli. Mr. Henry Evans, Pembre, oedd yn garedigrwydd i gyd, ac a bregethai yn dda,—yn enwedig pan gai gefn y gweinidogion. Mr. Daniel Evans, Nazareth, oedd ddyn unplyg a dihoced. Mr. David Jones, Cydweli, "a welai lonyddwch mai da oedd." Nid oedd Mr. William James, Llangybi, yn rhoddi y byd ar dân, er ei fod yn wr dichlynaidd. Mr. Joseph Williams, Bethlehem, a osodwyd mewn "gwlad dda odiaeth," ond a esgeulusodd ei waith, fel y gwelodd yn well encilio i'r Eglwys Wladol. Mae Mr. Evan Jones eto yn aros, a'r unig un sydd yn aros yn awr. Mr. Evan Evans, Hermon, oedd gymydog caredig, heb ddim drwg gan neb i ddweyd am dano. Mr. William Morris, Abergwili, oedd yn ddyn selog ond ei fod yn orffwyllog. Mr. John Williams, Llangadog, a urddasid y flwyddyn o'm blaen, ac efe oedd y mwyaf poblogaidd ac addawol o'r holl weinidogion ieuainc, Urddasid Mr. Henry Davies, yn Bethania, ychydig fisoedd o'm blaen, ond yr oeddwn wedi dyfod i'r sir cyn dyfodiad Mr. Thomas Rees i Siloa, yr hwn a fu i mi yn gyfaill a chydymaith fy