Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes. Gwelir mai ieuainc gan mwyaf oedd y gweinidogion. Yr oedd y rhan liosocaf o honynt o dan ddeugain oed, ac nid oedd ond ychydig o honynt uwchlaw hanner cant oed. Y peth mwyaf arbennig ynddynt oedd eu bod yn ysbryd eu gwaith; ac yr oedd myned i gyfarfod y sir yn hyfrydwch, gan mor llawn oedd pawb o ysbryd pregethu. Pregethid llawer iawn i'r eglwys, ac ar ddyledswyddau crefyddwyr, ac yn erbyn pechodau cyhoeddus. Dyna' a geid bron yn gyffredinol. Anaml y pregethid ar unrhyw athrawiaeth; ac nid oedd y weinidogaeth yr hyn a elwir yn efengylaidd, os nad oedd felly mewn ysbryd.

XIX. OEDFA HAPUS.

Daeth tyrfa fawr (i Landeilo) yn nghyd, i wrando Mr. Williams wrth reswm, oblegid yr oedd efe yn uchder ei boblogrwydd, ac yn tynnu y lliaws ar ei ol. Yr oeddwn innau yn gwbl ddieithr iddynt oll, a phe buasent yn fy adnabod nid yw yn debyg y buasai hynny yn gymhelliad i'w cael ynghyd. Darllenais yn destyn,—"Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych." Deallais cyn pen pum munyd fy mod wedi cael clust yr holl dorf. Nid wyf yn siwr nad oedd y rhan fwyaf o honynt yn meddwl mai Williams Llandeilo oeddwn, oblegid yr oedd yntau yn gwbl ddieithr i gannoedd yno, ond yn unig mewn enw; ac nid wyf yn amheu na fu hynny o help i mi. Cryfhaodd eu gafael hyd y diwedd, nid mewn hwyl orfoleddus; ond mewn gwenau cyffredinol o gymeradwyaeth. Nid oeddwn wedi cael oedfa mor lwyddiannus erioed cyn hynny.