Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddodd y tro hwnnw fwy o hyder i mi yn y peth a allaswn wneyd fel pregethwr na dim a deimlaswn o'r blaen; er i mi fod yn hir ar ol hynny cyn dyfod i syniad iawn beth ddylai pregeth fod, heb sôn am ddyfod i fyny a'r syniad hwnnw.

XX. TAITH I'R GOGLEDD.

Yr oeddwn yn cychwyn o gymanfa Llansadwrn, a gynhelid Mai 22ain a'r 23ain.—y gymanfa sirol gyntaf yn sir Gaerfyrddin. Mr. Williams, Llandeilo, oedd gweinidog Llansadwrn. Rhoddodd fi i bregethu gyntaf yn yr oedfa chwech o'r gloch y bore, ar y maes,—ac yr oeddwn yn falch o'r anrhydedd. Pregethais y bregeth ar y geiriau, —"Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych"—yr hon oedd y brif bregeth gennyf i fyned i'r daith. Rhoddid canmoliaeth uchel iddi. Nos olaf y Gymanfa yr oeddwn yn Ffald y Brenin, ac ar fy ffordd yno cyfarfuais â Benjamin Evans, brawd fy hen gyfaill, Joseph Evans, Capel Seion; ac wedi deall fy mod yn myned ar daith i'r Gogledd, dywedai yr hoffai ddod gyda mi; a chymhellais ef i ddyfod. Yr oedd ef ar y pryd yn cadw tipyn o ysgol yn Abergorlech, ac ar dorri yr ysgol dros wyliau yr haf. Dywedodd wrthyf cyn ymadael, efe i Abergorlech a minnau i Ffald y Brenin, os cawsai fenthyg pony gan rywun, y deuai ar fy ol cyn y Sabboth. Pregethais nos Iau yn Ffald y Brenin. Dydd Gwener pregethais yn Ebenezer am ddeg, Ty'n y Gwndwn am ddau, ac Aberaeron yn yr hwyr. Yn Aberaeron pregethais y bregeth ar "Adferiad popeth," yr hon oedd yn y wasg. Canmolai Mr.