Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans hi, ond dywedodd y buasai yn ychwanegu un peth ar y diwedd, fel cymhwysiad—Er yr adferid pobpeth nad oedd adferiad o uffern. Derbyniais ei awgrym, ac anfonais i'r swyddfa i ychwanegu hynny. Yr oedd ef wedi dyfod fwy i gyffyrddiad a'r Sosiniaid na mi, ac felly wedi clywed mwy yn haeru adferiad o'r poenau. Yn fy llety, nos Wener, pan yn hwylio i fyned i orffwys, pwy a ddeuai i mewn ond Ben Evans, wedi llwyddo gael pony i ddyfod gyda mi. Dydd Sadwrn, pregethason yn Nebo am ddeg, ac yn Llangwyryfon am ddau; ac yr oeddym i fod yn y Parth yr hwyr, ond collwyd y cyhoeddiad, ac yn Tan y Castell y buom yn lletya,—lle y cawsom bob croesaw. Y Sabboth, yr oeddem yn Aberystwyth am ddeg, yn Llanbadarn am ddau, ac yn Talybont am chwech. Nid oes gennyf fawr gof am y Sabboth, ond i ni gael deuddeg ceiniog o bres bob un am bregethu yn Llanbadarn; ac yr oeddynt yn ddigon hylaw i dalu y gates. Yr wyf yn cofio hefyd i bobi Talybont gael y fath flas âr bregeth “Yr angylion," fel y bu raid i mi addaw Sabboth yno wrth ddychwelyd, ac estynnodd hynny fwy nag wythnos ar fy nhaith, er mwyn i mi fod yno ar Sabboth Cymundeb, gan eu bod ar y pryd heb weinidog. Nos Lun yr oeddem yng nghapel y Graig, Machynlleth. Aethom ddydd Mawrth heibio i Ddolwen, i weled Mr. Williams Aberhosan, ac i Lanbrynmair erbyn yr hwyr. Yr oedd rhyw ddyryswch ar y cyhoeddiad, ond yr oedd ysgoldy y Bont yn cael ei agor, a tea party yno, â Mr. Evans Llanidloes, wedi ei alw yno i bregethu. Dydd Mercher yr oeddem yn Beulah am ddeg, a Llanfair yn yr hwyr; nos Iau yn Llanfyllin