Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nos Wener yn Llanrhaiadr, a nos Sadwrn yn Smyrna. Yn y lle olaf cyfarfuom â Richard Jones, Llwyngwril, a chan nad oedd lle ond i un o honom gysgu, a hynny gyda'r hen frawd o Lwyngwril, aethom ein dau ar ol yr oedfa i Groesoswallt. Pregethasom yno am ddeg bore Sul, yn Rhosymedre am ddau, ac yn Rhosllanerchrugog am chwech. Yr oedd pethau yn isel iawn yn y Rhos y pryd hwnnw. Nos Lun yr oeddem yn Llangollen. Nos Fawrth, yn y Bala. Yr oedd yn noson gyntaf y Sasiwn, ond cyhoeddwyd ni, a chawsom gynulleidfa weddol. Yr oedd y myfyrwyr oll yno. Bore drannoeth cyfarfum a'm brawd Owen. Yr oedd wedi gorffen yn Edinburgh, a phregethodd yn olaf y noson olaf, oddiar geiriau, —"Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig,"—a dyna y waith gyntaf iddo bregethu yn Sasiwn y Bala, a chafodd oedfa nodedig. Nid oedd dim yn gyffelyb wedi bod. Daeth sôn am yr oedfa ar fy ol. Aethom i Lanuwchlyn nos Fercher, a bu raid i mi yno hefyd addaw Sabboth wrth ddychwelyd. Yr oeddynt heb weinidog. Dydd Iau yr oeddem yn y Brithdir a Dolgellau. Nos Wener, yn Pen y Stryt,—a dyna un o'r lleoedd llwytaf a welsom ar y daith. Yr oeddem i fod nos Sadwrn yn Maentwrog, ond ni chyhoeddwyd ni. Pregethasom yno bore Sul, ac yn Porthmadog am ddau. Dywedodd Mr. Ambrose wrthyf, wedi gwrando fy nghyfaill, —"Yr ydych chi yn gall iawn, wedi dod a phregethwr ddigon sal gyda chi yn gyfaill, er mwyn i chi ddangos yn well, fel y bydd dyn wrth arwain march yn dod ar gefn merlyn bychan er mwyn i'r march ymddangos yn fwy.' Nos Sabboth yr oeddwn i yn Pantglas,