Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ym mysg y rhai yr oeddwn i yn arfer ymdroi yn y Dê. Gwelwn fod llacrwydd mawr gyda dirwest, a'r rhai oedd eto yn para yn hynod o ddisêl; pan yr oeddym ninnau,—y rhai oedd yn ddirwestwyr yn y De, ac yr oedd nifer fawr o honom—yn angerdd ein sel. Parodd hyn i mi ddychwelyd â syniad îs am y Gogledd nag oedd gennyf wrth gychwyn, a llawer llai o awydd myned yno drachefn.