Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Môn, ac a fu farw yn gydmarol ieuanc. Pobl gyffredin eu hamgylchiadau, fel y deallaf, oedd fy hynafiaid oll o du fy nhad. Ni ddeallais fod nag etifeddiaeth na threfdadaeth yn perthyn i neb o honynt. Ond yr oeddynt yn ddynion cryfion, gweithgar, a diddiogi, yn nodedig am eu gonestrwydd, ac yn nodedig fel parablwyr rhwydd a diatal, er na chefais, er holi, eu bod yn nodedig am eu galluoedd meddyliol, na bod neb o nod fel bardd, na llenor, na hynafiaethydd, na phregethwr wedi codi o honynt. Yr oedd plwyf Llanddeiniolen gynt bron i gyd yn perthyn i'r un teulu, ac yr oedd y trigolion agos oll, pan adnabyddais y lle gyntaf ryw hanner cant neu bymtheg mlynedd a deugain yn ol, yn berthynasau o bell i mi.

Lliniwr oedd fy nhaid wrth ei gelfyddyd—"Owen Thomas y Lliniwr" y gelwid ef, ac yn yr alwedigaeth honno y dygodd ei holl feibion i fyny. Nis gwn a oedd rhai o'i hynafiaid o'i flaen yn yr un alwedigaeth, tra thebygol eu bod, oblegid yn y dyddiau hynny gweithient eu llin a'u gwlan eu hunain. Gwelais y tŷ bychan yn agos i Benisa'r Waen lle yr oedd fy nhaid yn byw, a lle y ganwyd iddo ei holl blant. Pan yr oedd y teulu wedi tyfu i fyny, symudodd fy nhaid o Landdeiniolen i Langoed, Môn, i le o'r enw Hen Odyn. Nis gwn am ba reswm, ond ymddengys mai i ddilyn ei alwedigaeth fel lliniwr y bu hynny. Ond o gylch yr adeg hon trodd rhai o'r meibion eu sylw at fod yn naddwyr cerrig (stone-cutters). Fy ewythr William, fel y deallaf, oedd y cyntaf i droi at yr alwedigaeth honno, eithr nis gwn dan ba amgylchiadau, os nad am fod rhyw adeiladau yn cael eu codi ar ororau Môn ar y pryd. Gan fod