Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y bechgyn yn fedrus mewn llaw-weithyddiaeth cyflwynasant eu sylw yn llwyr i hynny, fel y daethant yn gelfydd yn y gorchwyl, ac fel stone - cutters yr adnabyddid hwy oll. Yr wyf yn meddwl i fy nhaid hefyd cyn diwedd ei oes arfer ychydig â naddu cerrig, a rhoddi heibio ei orchwyl fel lliniwr agos yn hollol; ond yr wyf yn cofio yn dda gweled rhai o'r cribau a'r rhai y byddent yn nyddu gynt yn ein tŷ ni. Cedwid hwy yn y teulu fel hen relics.

Nid oes gennyf fanylion am fy hynafiaid o du fy mam. Ei henw morwynol oedd Mary Roberts, ac yr oedd iddi ddwy chwaer ac un brawd o'r un dad a'r un fam. Yr oedd ei chwaer hynaf, Elizabeth, neu Betty Roberts, fel ei gelwid, yn byw yn y Gaerwen, a bu fyw trwy ei hoes yn ddibriod. Ei brawd, William, a ddilynodd alwedigaeth ei dad fel cylchwr (cooper). Bu mewn masnach eang yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond trodd yn afradlon, ac aeth i grwydro y byd. Y mae wedi marw er's llawer o fynyddoedd. Unwaith erioed y gwelais ef, ac y mae gennyf adgof byw o'r amgylchiad. Yr oedd mab iddo yn byw yn Manchester hyd yn ddiweddar, ac ni chlywais ei farw. Daeth chwaer ieuangaf fy mam, Ellen, i Liverpool pan yn ieuanc i wasanaethu, lle hefyd y priododd, ac y ganwyd iddi dair o ferched, a thyfodd dwy i'w llawn oedran; ond gwelodd y fam eu claddu oll, ac y mae hithau yn y bedd ers ugain mlynedd bellach, fel nad oes neb o'r teulu o ochr fy mam yn fyw, oddieithr fod y cefnder hwnnw yn Manchester. Enw fy nhaid, tad fy mam, oedd Robert Roberts, o Bentre Berw, Sir Fôn. Cylchwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gwasanaethai