Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r Ysgotiaid eraill y ceir eu hiliogaeth yn awr yn Môn. Mae gennyi gof da y byddai son mawr yn ein teulu mai'n heiddo ni oedd Cadnant, ond gwaredwyd ni rhag y ffolineb o obeithio cael dim byth oddiwrthi. Yr oedd fy mam yn grefyddol er yn ieuanc, a chlywais hen ŵr, Richard Edwards, Llanfair y Borth, yn adrodd iddo ei chlywed yn y Dwyran neu Bryn Siencyn, pan oedd yn ieuanc, yn gorfoleddu yn hwyliog. Symudodd i Beaumaris i wasanaeth y Parch. Richard Lloyd, a bu yno am rai blynyddau, a thra yno y daeth i gydnabyddiaeth a fy nhad.

III. MEBYD.

Nis gwn ddyddiad priodas fy rhieni, ond yr oedd yn agos i ddiwedd 1811 neu ddechreu 1812. Sefydlasant yng Nghaergybi, ac yno y ganwyd y plant oll oddieithr Josiah, fy mrawd ieuangaf. Myfi oedd y pumed a anwyd iddynt. Yr oedd tri brawd, Owen, William, a Robert, ac un chwaer, Mary, yn hynach na mi, a dwy chwaer, Ellen, a Sarah, ac un brawd, Josiah, yn ieuangach na mi, fel yr oeddym oll yn wyth o blant. Nis gallasai ein bywoliaeth fod yn rhyw hynod o helaethlawn pan nad oedd ond llafur dwylaw fy nhad ar ein cyfer oll, ac ni bu ei gyflog yr adeg oreu arno yn fwy na phedwar swllt ar hugain yr wythnos; fel y rhaid fod gofal, a chynildeb, a darbodaeth fy mam yn fawr iawn cyn y gallasai ddwyn dau ben y llinyn ynghyd. Ond ni bu arnom eisieu dim. Cawsom ymborth a dillad ac yr oeddym yn foddlawn ar hynny, a chawsom hefyd ychydig addysg, a chystal addysg ag a roddid i blant cyffredin yn y dyddiau hynny. Nid yw fy adgofion am Gaergybi