Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond amherffaith iawn. Ond yno y ganwyd fi, Chwefror y trydydd, 1821, a bedyddiwyd fi gan y Parchedig John Elias, y pregethwr mwyaf hyawdl a phoblogaidd yn ddiau a welodd Cymru erioed; ac y mae yn dda gennyf heddyw, ymhen triugain a phump o flynyddau, fy mod wedi bod ym mreichiau y dyn sanctaidd hwnnw; ac nis gwn pa ddylanwad a adawodd ei weddi drosof pan yn faban ar ddyfodol fy mywyd.

Pan y darfu y gwaith yng Nghaergybi bu raid i fy nhad fyned oddicartref i weithio, yr hyn a ychwanegai at ei draul. Bu yn gweithio yn Glynllifon, palas Arglwydd Newborough, ac yng Nghastell y Penrhyn, palas Arglwydd Penrhyn, a adeiledid ar y pryd gan y perchennog, George Hey Dawkins Pennant, Ysw. Gan i fy nhad gael gwaith parhaol yno, a bod tebygolrwydd i Owen fy mrawd hynaf gael gwaith yno hefyd, penderfynodd fy rhieni symud i Fangor, yr hyn a wnaethant yn 1827, pan nad oeddwn ond chwe mlwydd oed.

Mae fy holl adgofion boreuol ynglyn â Bangor. Yno y cefais fy hun yn yr ysgol gyntaf. Dichon i mi fod yn yr ysgol yng Nghaergybi—nid wyf yn meddwl chwaith—ond os bum, nid oes gennyf unrhyw gof am hynny, nac am y capel na'r Ysgol Sul, er fod gennyf gof am rai personau a rhyw ddigwyddiadau yno. Yr wyf yn cofio yn dda, wedi ein symudiad i Fangor, fod fy mrawd hynaf yn fy nghymeryd i a'm chwaer oedd hyn na mi i'r ysgol at ryw wraig yn Hirael, ond nid oes gennyf fawr o gof pellach am fyned yno. Bum ar ol hynny yn yr ysgol gyd âg Ellen Jones, hen ferch a gadwai ysgol, a'r hon wedi hynny a briododd â John Williams, Coetmor, y