Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid, ac a dreuliodd ei oes ar ol priodi ym Mangor. Bum drachefn yn yr ysgol dros ychydig gyd âg Owen Jones, Llanuwchllyn wedi hynny. Un genedigol o ardal Colwyn ydoedd. Urddasid ef yn weinidog gyda'r Anibynwyr yn Llanaelhaiarn; ond un anwastad yn ei holl ffyrdd ydoedd. Aeth i Lanerchynedd, ond oblegid ei ddrwg fuchedd bwriwyd ef oddiyno, a daeth i Fangor o dan aden y Parch. Arthur Jones, D.D., yr hwn, er ei fod ei hun yn ddyn pur a sanctaidd, oedd yn hynod o dyner a pharod i roddi cynnyg drachefn i rai wedi syrthio. Cymerodd Owen Jones dy yn Hirael, a chadwai dipyn o ysgol mewn un ystafell ynddo. Nid oes gennyf fawr gof am dano. Ni bum yn hir gyd ag ef, ac ychydig a ddysgais yn yr yspaid y bum, ac nid wyf yn meddwl fod ynddo yntau lawer o allu i gyfrannu addysg. Ar ol ei ail godi i bregethu ymadawodd yn fuan i Bwllheli, ac wedi hynny i Lanuwchllyn, lle y bu am flynyddoedd yn pregethu i'r rhai a elwid yr Hen Bobl,' wedi y rhwyg mawr yno. Aeth ei fuchedd yn rhy ddrwg i'w oddef, ac enciliodd at y Bedyddwyr, a chyd â hwy y bu am weddill ei oes, weithiau i lawr ac weithiau i fyny. Yr oedd yn nodedig o ddoniol, ac yn ddyn digon diniwed, ond fod ei flysiau at ddiodydd meddwol yn aflywodraethus.

Gan fod mwy o arian yn dyfod i'r teulu drwy fod fy nhad a'm brawd hynaf yn ennill, cefais fyned i ysgol Hugh Williams, yr hon a gyfrifid yn un o'r ysgolion goreu; ac yno y dysgais agos y cwbl a ddysgais yn y cyfnod hwnnw. Yr oeddwn yn fachgen bywiog a direidus, ac yn