Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bencampwr ar bob chwareu megis rhedeg a neidio. Yr orchest fwyaf oedd medru neidio oddiar y gris uchaf-grisiau cerrig oddiallan—oedd yn myned i'r ystafell lle y cynhelid yr ysgol. Oddiar yr uchaf ond un y gallai y neidwyr goreu neidio, ond yr oeddwn i yn medru neidio oddiar y gris uchaf, yr hyn a roddai i mi y llawryf. Rhyfyg ydoedd y fath beth, oblegid byddem yn disgyn ar garreg fawr, ac yr oedd disgyn felly yn ddigon i ysigo fy holl natur oni bae fy mod mor ysgafndroed. Ar y tymor ymdrochi byddwn yn y dwfr hanner fy amser, ac ychydig oedd yn rhagori arnaf fel nofiedydd. Nofiais yn groes i'r Fenai lawer gwaith cyn fy mod yn ddeuddeg oed. Cadwyd fi rbag pob anfoesoldeb, rhag arfer iaith anweddus, na thorri y Sabboth; ac o ganol y chwareuon, yn aml yn chwys diferol, rhedwn i'r capel ar noson Seiat i fod ar ben y fainc i ddweyd fy adnod; ac ni chadwodd chwareu erioed mo honof o'r capel os byddai rhyw foddion yno, yr hyn a ddigwyddai agos bob nos yn y dyddiau hynny. Fy nghyfoedion oedd Samuel Roberts, yr hwn oedd yn frawd i'r Parchedig David Roberts, D.D., Wrecsam, ac a ddaeth wedi hynny yn weinidog parchus gyda'r Methodistiaid ym Mangor; a John Owen, yr hwn ar ol hynny a wyrodd oddiar yr hen ffordd uniawn, ac a ddaeth i Liverpool i siop, ac wedi hynny i Fanchester, lle y collwyd ef ac ni wybu neb pa beth fu ei ddiwedd. Yr oeddym ein tri yn gyfeillion mawr, a lle y byddai y naill y ceid y lleill. Treuly iasom gannoedd o oriau yn nghyd, a dringem i ryw gilfach yn y mynydd lle y byddem yn cynnal cyfarfodydd gweddio a phregethu, nid yn gymaint