oblegid ein crefyddolder, ond oblegid fod ein bryd ar fod yn bregethwyr. Yr oedd eraill a ddeuai yn achlysurol i'r cynhulliadau hynny, ond nyni ein tri fyddai yno yn wastad.
Yn haf 1831 cymerwyd fy nhad yn glaf o glefyd trwm, ac yr oeddwn innau yn glaf yr un pryd o'r un afiechyd, ac wedi naw niwrnod o gystudd chwerw bu farw fy nhad yr wythfed o Orffennaf, 1831. Dyma gwmwl du wedi ein gorchuddio fel teulu, dymuniad llygaid fy mam wedi ei gymeryd ymaith â dyrnod; ffon cynhaliaeth y teulu yn disgyn i'w fedd yn chwech a deugain oed; wyth o blant wedi eu gadael heb dad, a'r ieuangaf o honynt heb fod ond un mis ar ddeg oed, a fy mam wedi ei gadael yn weddw heb unrhyw ddarpariaeth ar ei chyfer ond a oedd yn yr addewid, "Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd." Diwrnod cymylog i ni oedd y diwrnod hwnnw. Cafodd fy mrawd hynaf le a chyflog fy nhad yn y gwaith, a dygai ef yn ffyddlon i'm mam oddigerth yr hyn a wariai ar lyfrau. Bu ef i ni fel tad, ac erioed ni bu mab ffyddlonach i'w fam. Yr oedd y brawd nesaf ato yn dechreu dod i ennill, ond nid i allu estyn fawr o help.
IV. SIOP DAFYDD LLWYD.
Yr oedd ar ben arnaf fi i gael rhagor o ysgol, ac, er nad oeddwn eto yn un mlwydd ar ddeg oed, yr oedd yn rhaid i mi feddwl am wneyd rhywbeth i ennill fy mara. Cymerwyd fi gan Mr. John Robert Jones i'w siop. Yr oeddwn wedi arfer fwy na dwy flynedd cyn hynny fod yn siop un Rowland Parry, yn Hirael, yr hwn a letyai gyda