Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Morris, a'r ddau yn ddynion ieuainc crefyddol. Un o Efail Newydd, gerllew Pwllheli, oedd Ebenezer Thomas. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, wedi darllen llawer, yn dipyn o lenor a bardd, ac wedi ysgrifennu amryw ddarnau i gyhoeddiadau y dyddiau hynny o dan yr enw "Bodegroes." Yr oedd yn bur hyddysg yn hanes crefydd ym Mhwllheli a'r amgylchoedd, ac yn adnabod y cymeriadau mwyaf nodedig gyda phob enwad trwy y wlad honno. O ran ei olygiadau gwleidyddol yr oedd yn Rhyddfrydwr, neu yn "Whig," fel y gelwid Rhyddfrydwyr y dyddiau hynny. Un o Eifionnydd oedd Ebenezer Morris hefyd, ac yr oedd yn frawd i'r Parch. Morris Williams (Nicander), a'i fam yn chwaer i Pedr Fardd. Yr oedd Nicander, ei frawd, ar y pryd yn Rhydychen, ac oblegid ei gysylltiad a'i frawd, os nad am ddim arall, yr oedd ef yn Dori, a'i gydymdeimlad yn fawr a'r Eglwys. Dyn bychan, dled ddrwgdymherog, ydoedd. Yr oeddwn i y pryd hwnnw trwy ryw reddf yn Rhyddfrydwr, er nad oeddwn ond plentyn, a byddai Eben Morris a minnau yn dyfod i wrthdarawiad mynych. Ni byddai raid i mi ond dweyd gair am yr Eglwys, neu wneyd rhyw gyfeiriad at ei frawd, nad elai yn ffagl mewn munud. Byddai Ebenezer Thomas yn wastad yr un ochr a mi, a'i ddifyrrwch oedd ein gyrru yn erbyn ein gilydd; a mynych y clywid Dafydd Llwyd yn taro ei law yn y bwrdd, ac yn gwaeddi yn awdurdodol,—" Taw, John," oblegid yr oedd ei gydymdeimlad ef gydag Eben; ac os na thawem cochai ei wyneb, a fflamiai ei lygaid, a gwaeddai,—"Os wyf feistr, pa le y mae fy ofn?" gan droi ar ei untroed, a chydio yn ei fagl,