yr oedd wedi rhoddi i fyny weithio yn y chwarel, ac yn disgwyl cael apwyntiad i'r Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich. Treuliai ef lawer o'i amser gyda ni. Yr oedd wedi astudio gramadeg a gwreiddiau a tharddiad geiriau i raddau helaeth, ac yr oedd gan Ebenezer Thomas chwaeth gref at hynny, a byddai rheolau gramadeg yn cael cryn sylw. Byddai hefyd yn egluro Seryddiaeth pan wesgid arno, er ei fod yn hollol anymhongar, ac na byddai byth yn gwneyd bost o'i wybodaeth. Galwai Shon Dafydd, Ty'r Capel, yn gyson pan y byddai gartref o'i deithiau llyfrwerthol. Dyn garw, trwsgl, a difoes oedd efe, Calfiniad uchel, a gelyn anghymodlawn i'r Eglwys Sefydledig. Byddai ganddo doraeth o hanesion drwg a da-drwg gan mwyaf—pan ddychwelai wedi wythnos o daith. Byddai ef ag Eben Morris grib yng nghrib mewn munud pan y deuai yr Eglwys a'r personiaid i'r bwrdd; ond yr oedd y ddau yn Uchelgalfiniaid; rhonc, ac yn hynny yn unig y cytunent. Calfiniaeth oedd athrawiaeth y ty, ond nid oedd yno y fath gaethiwed fel na oddefid ei dadleu.
Bu tair blynedd yno yn well i mi na thair blynedd o'r ysgol oreu. Cefais ryw syniad ar bob pwnc duwinyddol, ac agorwyd fy meddwl i weled beth oedd gan y rhai a wahaniaethent oddiwrth yr hyn a gredwn i oedd wirionedd i'w ddywedyd. Cefais wybodaeth helaeth am Gymru oll, gan rai oedd wedi ei theithio, cyn i mi weled ond ychydig o honi, ac nid oedd odid ddyn o unrhyw fri, mewn unrhyw gwer o'r wlad na chan unrhyw enwad, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, nad oeddwn wedi clywed am dano. A rhaid i mi ddweyd na ddigwyddodd i mi byth daro ar gynifer o ddynion