Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyffredin o'r fath ddeall a chraffder ar faterion duwinyddol a gwladol ag a gyfarfyddais yng ngweithdy Dafydd Llwyd. Treulid agos yr holl ddydd mewn ymddiddan ar rhyw fater, ac yr oeddynt yn gallu gwneyd hynny heb fod y gwaith mewn un modd yn sefyll, oddieithr pan yr elai yn boeth; yna safai y gwaith, a byddai raid i Dafydd Llwyd orchymyn yn awdurdodol ar ini oll ddistewi. Ac nid yn anaml y byddai y cyfryw orchymyn yn dyfod yn uniongyrchol ataf fi, nid oblegid mai myfi oedd ddyfnaf yn y camwedd bob amser, ond oblegid ei fod yn cymeryd mwy o ryddid arnaf gan nad oeddwn ond bachgen o brentis.

V. Y CAPEL.

Yn fuan wedi i mi fyned yno, cyn diwedd 1832, cychwynwyd y Gymdeithas Cymedroldeb, a chynhelid cyfarfodydd bob wythnos yn yr Infant School. Yr oeddym oll yn aelodau o'r Gymdeithas, ac yn selog o'i phlaid, ac yr oedd Ebenezer Thomas wedi bod yn areithio amryw weithiau yn y cyfarfodydd. Yn un cyfarfod yr oedd Eben Morris i areithio, a gwyddem hynny, ac yr oedd yn ddiwyd yn parotoi. Noson y cyfarfod a ddaeth, ac wele yntau i fyny. Yr oedd yn danllyd a bywiog ym mhob peth a wnai, oblegid un bychan hawdd ei gyffroi ydoedd. Rywle yn ystod ei araeth, wrth ddesgrifio cyflwr y wlad, ac mor resynol ydoedd, dywedai eiriau y proffwyd Jeremiah,—"Ona bai fy mhen yn ddyfroedd!" a dywedai hwy yn gyffrous, mewn llais llefog, a chan wasgu ei ben a'i ddwylaw. Trannoeth digiodd fi am rywbeth, ac nid oedd gennyf ddim i'w wneyd er dial arno ond ei ddynwared y nos