Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes Wrecsam, Liverpool wedi hynny. Gwrandewais Ebenezer Richards a Thomas Richards, a John Evans New Inn, amryw weithiau, a William Morris Cilgeran yn amlach na hynny. Efe o holl weinidogion y De fyddai yn dod amlaf, ac nid oedd neb yn fwy derbyniol, Cof gennyf am ddyfodiad Morgan Howell i gasglu at gapel Casnewydd, ac erioed ni welais y fath dynnu ar ol yr un dyn. Yr oedd y wlad wedi ynfydu arno. Yr wyf yn cofio ymweliad cyntaf Lewis Edwards Penllwyn—Dr. Edwards yn awr; John Phillips, Rhaiadr Wy, Bangor wedi hynny; Richard Jones, Llanllugan, Llanfair wedi hynny; a Roger Edwards, Dolgellau, yn ddynion ieuainc; ond John Phillips, o honynt oll, oedd yn fwyaf poblogaidd, er y dywedai y beirniaid y pryd hwnnw mai pregethwr bychan ydoedd, ac mai y lleill oedd y meddylwyr. Ond ar swn yr oedd mwyaf o fynd y pryd hwnnw, fel y mae eto. Yr wyf yn cofio myned ir Carneddi i gyfarfod. Pregethai John Phillips yno yn y bore, o flaen John Elias, oddiar y geisiau,—"Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu". Dyna yr unig destyn o'i eiddo yn ei ymweliad cyntaf ydwyf yn gofio, ac nid wyf yn cofio dim o'r bregeth. Ychydig o bregethwyr o enwadau eraill a glywais, nac y deuthym o i unrhyw cydnabyddiaeth â hwy, cyn fy mod yn bymtheg oed. Mae yn gof gennyf cyn hynny i mi fyned i Gapel yr Anibynwyr i glywed William Jones, Penybont ar Ogwr. Yr oedd yn pregethu ar y Cyramod Gras, ac yn sylwi, yn gyntaf, ar y cyfamod gras "fel bond, ysgrif, neu weithred." Ni wyddwn yn y byd beth oedd ystyr y fath eiriau, ac yr oedd hwnnw yn asgwrn i fyned