uwch ei ben drannoeth. Yr oeddwn i, drwy help un oedd hynach na mi, wedi dod i ddeall ystyr y geiriau cyn cysgu, ond yr oedd pawb yn y gweithdy mor ddiddeall ag oeddwn innau cyn cael y weledigaeth. Mynnai Eben Morris mais pont neu ysgraff" a olygai, rhywbeth i groesi y culfor, a bod y Cyfamod Gras i groesi yr agendor rhyngom a Duw; ond ni wyddai pa beth a wnai a'r gweddill, "neu weithred." Llawer gwaith y gwnaed gwawd o hono ar ol hynny wrth ddweyd am unrhyw beth na ddeallid mai "pont neu ysgraff" ydoedd.
Byddai llawer iawn o gyrchu i Dy'r Capel—ty Shon Dafydd—cyn ac ar ol pob oedfa. Ychydig oedd yno o gadeiriau, rhyw hanner dwsin i'r eithaf. Eisteddai y pregethwr mewn cadair a breichiau iddi, yn ymyl yr hon yr oedd bwrdd crwn, a blwch myglys mawr arno, a'r "Tabernacl" ar y blwch. Dyna "baco'r achos." Rhoddid glasiad bychan o gwrw i'r pregethwr cyn pregethu, ac un arall wedi dibennu. Dyna oedd yr arfer. Ni welais ond dau cyn cychwyniad dirwest yn gwrthod y glasiad—John Hughes Pontrobert ac Ebenezer Richard Tregaron. Os byddai ail bregethwr— y cyfaill—eisteddai ef yr ochr arall ar gyfer ei gydymaith, tra y meddiennid y cadeiriau eraill gan y pregethwyr cartrefol a ddigwyddai fod yno, neu rai o'r blaenoriaid. Yr oedd yno fwrdd o flaen y ffenestr a'i dalcen yn rhedeg at y bwrdd crwn, a bron i ymyl y pregethwr. Thomas Bywater fyddai fynychaf ar ben y bwrdd hwn, ac Edward Ellis yn ei ymyl, ac ni byddwn innau ymhell yn ol. Ychydig iawn a siaradai y pregethwyr fel rheol, oddieithr yr