Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afrwydd iawn ydoedd, a llediaith Seisnig yn drwm arno. Cymerodd Samuel Roberts, John Owen, a minnau docynau ganddo i fod yn aelodau o Gymdeithas Llwyrymataliad Rose Place, Liverpool. Yr oeddwn i ar y pryd wedi troi pedair ar ddeg oed.

VI. Y DAITH GYNTAF.

Ryw bryd yn haf y flwyddyn honno (1835) cychwynnais a'm pac ar fy nghefn, gan fyned fel Abraham heb wybod i ba le. Yr oeddwn wedi clywed cymaint am y Garn a Dolbenmaen fel y penderfynais ei chychwyn y ffordd honno; ac yr oedd yno fachgen wedi bod yn gweithio am ychydig, yr hwn a ddywedai fod ei fam yn cadw Gate yn agos i Dremadog, a dywedai, os byth y deuwn y ffordd hono, y cawn groesaw. Cychwynnais trwy Lanrug, a thrwodd i Lanllyfni, a thrwy Bantglas, a'r Garn, a Dolbenmaen, hyd at y Turnpike Gate gerllaw Tremadog, lle y cefais bob croesaw, a llety noson fel yr addawsid. Yr oeddwn wedi galw mewn mwy nag un lle ar y ffordd i ofyn gwaith, ond heb ei gael; ond wedi cael bwyd mewn mwy nag un lle. Cychwynnais drannoeth o'r Towyn—fel y gelwid Porthmadog y pryd hynny, ac nid oedd yno ond ychydig o dai bychain ar y tywyn moel—mewn bâd i fyned dros y traeth i gyfeiriad Harlech. Gwyddwo enw un gŵr yno, ond nid oedd arno eisieu neb. Aethum ddwy filldir ymhellach hyd le yr oedd tafarnwr yn cadw nifer o weithwyr. Eisteddais ennyd yn y gweithdy, ond nid oedd angen arno am neb. Dyn caredig oedd y tafarnwr. Cymerodd fi i'r ty, rhoddodd fwyd i mi, a hanner peint o gwrw, a chymhellai fi i'w yfed. Ni ddywedais ddim; ond